Luc 1:64-70 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

64. Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw.

65. Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd;

66. a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. “Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?” meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef.

67. Llanwyd Sachareias ei dad ef â'r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn:

68. “Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israelam iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid;

69. cododd waredigaeth gadarn i niyn nhŷ Dafydd ei was—

70. fel y llefarodd trwy enau ei broffwydi sanctaidd yn yr oesoedd a fu—

Luc 1