Luc 1:59-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

59. A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias.

60. Ond atebodd ei fam, “Nage, Ioan yw ei enw i fod.”

61. Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.”

62. Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi.

63. Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb.

Luc 1