Luc 1:50-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

50. y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaethi'r rhai sydd yn ei ofni ef.

51. Gwnaeth rymuster â'i fraich,gwasgarodd y rhai balch eu calon;

52. tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,a dyrchafodd y rhai distadl;

53. llwythodd y newynog â rhoddion,ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw.

54. Cynorthwyodd ef Israel ei was,gan ddwyn i'w gof ei drugaredd—

55. fel y llefarodd wrth ein hynafiaid—ei drugaredd wrth Abraham a'i had yn dragywydd.”

56. Ac arhosodd Mair gyda hi tua thri mis, ac yna dychwelodd adref.

57. Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab.

Luc 1