Luc 1:46-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. Ac meddai Mair:“Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd,

47. a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr,

48. am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn.Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau,

49. oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi,a sanctaidd yw ei enw ef;

50. y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaethi'r rhai sydd yn ei ofni ef.

51. Gwnaeth rymuster â'i fraich,gwasgarodd y rhai balch eu calon;

52. tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,a dyrchafodd y rhai distadl;

Luc 1