36. Ac wele, y mae Elisabeth dy berthynas hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint, a dyma'r chweched mis i'r hon a elwir yn ddiffrwyth;
37. oherwydd ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw.”
38. Dywedodd Mair, “Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.” Ac aeth yr angel i ffwrdd oddi wrthi.
39. Ar hynny cychwynnodd Mair ac aeth ar frys i'r mynydd-dir, i un o drefi Jwda;
40. aeth i dŷ Sachareias a chyfarch Elisabeth.
41. Pan glywodd hi gyfarchiad Mair, llamodd y plentyn yn ei chroth a llanwyd Elisabeth â'r Ysbryd Glân;
42. a llefodd â llais uchel, “Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth.
43. Sut y daeth i'm rhan i fod mam fy Arglwydd yn dod ataf?
44. Pan glywais dy lais yn fy nghyfarch, dyma'r plentyn yn fy nghroth yn llamu o orfoledd.
45. Gwyn ei byd yr hon a gredodd y cyflawnid yr hyn a lefarwyd wrthi gan yr Arglwydd.”
46. Ac meddai Mair:“Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd,
47. a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr,
48. am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn.Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau,
49. oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi,a sanctaidd yw ei enw ef;
50. y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaethi'r rhai sydd yn ei ofni ef.
51. Gwnaeth rymuster â'i fraich,gwasgarodd y rhai balch eu calon;