Luc 1:34-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Meddai Mair wrth yr angel, “Sut y digwydd hyn, gan nad wyf yn cael cyfathrach â gŵr?”

35. Atebodd yr angel hi, “Daw'r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw.

36. Ac wele, y mae Elisabeth dy berthynas hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint, a dyma'r chweched mis i'r hon a elwir yn ddiffrwyth;

37. oherwydd ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw.”

38. Dywedodd Mair, “Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.” Ac aeth yr angel i ffwrdd oddi wrthi.

39. Ar hynny cychwynnodd Mair ac aeth ar frys i'r mynydd-dir, i un o drefi Jwda;

40. aeth i dŷ Sachareias a chyfarch Elisabeth.

Luc 1