Luc 1:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias, ac yn synnu ei fod yn oedi yn y cysegr.

22. A phan ddaeth allan, ni allai lefaru wrthynt, a deallasant iddo gael gweledigaeth yn y cysegr; yr oedd yntau yn amneidio arnynt ac yn parhau yn fud.

23. Pan ddaeth dyddiau ei wasanaeth i ben, dychwelodd adref.

24. Ond wedi'r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe'i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud,

25. “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.”

Luc 1