Llythyr Jeremeia 1:69-73 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

69. Gan hynny, nid oes gennym unrhyw fath o dystiolaeth eu bod yn dduwiau. Felly peidiwch â'u hofni.

70. Fel bwgan brain nad yw'n amddiffyn dim mewn gardd lysiau, felly y mae'r duwiau pren hyn o'r eiddynt, gyda'u gorchudd o aur ac arian.

71. Tebyg i lwyn drain mewn gardd, a phob aderyn yn disgyn arno, a thebyg i gorff wedi ei daflu allan yn y tywyllwch, yw eu duwiau pren gyda'u gorchudd o aur ac arian.

72. Wrth y porffor a'r lliain main sy'n pydru arnynt gwybyddwch nad duwiau mohonynt. Fe'u hysir hwy eu hunain yn y diwedd, a byddant yn waradwydd yn y wlad.

73. Felly gwell yw'r cyfiawn nad oes ganddo ddelwau; pell fydd un felly oddi wrth waradwydd.

Llythyr Jeremeia 1