Llythyr Jeremeia 1:40-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Pa fodd y gellir eu cyfrif neu eu galw yn dduwiau?Yn wir, y mae'r Caldeaid eu hunain yn dibrisio'r pethau hyn.

41. Oherwydd, pan welant fudan na all siarad, dônt ag ef at Bel a gwneud iddo alw arno, fel petai hwnnw'n meddu ar synhwyrau. Ac nid oes ganddynt hwythau ddigon o grebwyll i gefnu'n llwyr arnynt, gan mor ddisynnwyr ydynt.

42. Y mae'r gwragedd hefyd yn eistedd yn y strydoedd â rheffynnau amdanynt, yn llosgi eisin.

43. Ac os tynnir un ohonynt allan gan rywun sy'n mynd heibio, a hithau'n gorwedd gydag ef, y mae hi'n edliw i'w chymdoges na chafodd honno ei chyfrif mor ddeniadol â hi ei hunan, ac na thorrwyd ei rheffynnau hithau.

44. Y mae popeth sy'n ymwneud â'r delwau hyn yn gelwydd. Pa fodd y gellir eu cyfrif neu eu galw yn dduwiau?

Llythyr Jeremeia 1