Llythyr Jeremeia 1:24-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Er bod aur yn addurn amdanynt, ni ddisgleiriant byth heb i rywun eu sychu'n lân. Ni theimlasant ddim wrth gael eu toddi i'w llunio.

25. Er nad oes ynddynt anadl, fe'u prynwyd am bris mawr.

26. A hwythau heb draed, rhaid wrth ysgwyddau i'w cludo, a dengys hynny i bobl bethau mor wael ydynt.

27. Y mae cywilydd hyd yn oed ar y rhai sy'n eu gwasanaethu, oherwydd os digwydd i un o'u duwiau syrthio i'r llawr, ni all godi ohono'i hun. Ac o'i osod i sefyll yn syth, ni all symud ohono'i hun; neu o'i osod ar ogwydd, ni all ei unioni ei hun. Y mae offrymu iddynt fel offrymu i gyrff meirw.

28. Y mae'r offeiriaid yn gwerthu aberthau'r duwiau, ac yn defnyddio'r elw i'w dibenion eu hunain, a'u gwragedd yr un modd yn cymryd rhannau o'r aberthau ac yn eu halltu, heb roi dim i'r tlawd a'r methedig.

29. Cyffyrddir â'u haberthau gan wragedd misglwyfus a chan rai sydd newydd esgor. Gwybyddwch wrth hyn nad duwiau mohonynt, a pheidiwch â'u hofni.

30. Pa fodd y gellir eu galw'n dduwiau? Oherwydd gwragedd sy'n offrymu i'r duwiau hyn o arian ac aur a phren.

31. Y mae'r offeiriaid yn eistedd yn eu temlau â'u gwisgoedd wedi eu rhwygo, a'u pennau a'u barfau wedi eu heillio, a heb benwisg,

32. gan weiddi a bloeddio gerbron eu duwiau, fel rhai mewn gwledd angladd.

Llythyr Jeremeia 1