Llythyr Jeremeia 1:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Fel un yn barnu gwlad, y mae gan y duw deyrnwialen yn ei law, ond ni all ladd neb sy'n pechu yn ei erbyn.

15. Yn ei law dde y mae ganddo ddagr a bwyell, ond ni all ei waredu ei hun rhag rhyfel na lladron.

16. Y mae'n amlwg wrth hyn nad duwiau mohonynt. Felly peidiwch â'u hofni.

17. Fel y mae llestr wedi ei dorri yn ddiwerth i neb, felly y mae eu duwiau hwy, wedi iddynt gael eu gosod yn eu temlau. Llenwir eu llygaid â llwch o draed y rhai a ddaw i mewn.

18. Fel y caeir pyrth yn wyneb dyn sy'n euog o deyrnfradwriaeth, fel dyn dan ddedfryd marwolaeth, felly y mae'r offeiriaid yn diogelu temlau'r duwiau â drysau a bolltau a chloeau, rhag i ladron eu hysbeilio.

19. Y maent yn cynnau lampau o'u blaen, mwy hyd yn oed nag o'u blaen eu hunain, er na all y duwiau weld yr un ohonynt.

20. Y maent fel un o drawstiau'r deml, ac eto y maent yn cael eu llyfu, megis, o'r tu mewn, wrth i greaduriaid o'r ddaear eu difa hwy a'u gwisgoedd heb yn wybod iddynt.

21. Y mae mwg o'r deml wedi duo eu hwynebau.

22. Bydd ystlumod a gwenoliaid ac adar o bob math yn clwydo ar eu cyrff a'u pennau, a chathod hefyd yn dringo arnynt.

23. Wrth hyn bydd yn amlwg i chwi nad duwiau mohonynt. Felly peidiwch â'u hofni.

24. Er bod aur yn addurn amdanynt, ni ddisgleiriant byth heb i rywun eu sychu'n lân. Ni theimlasant ddim wrth gael eu toddi i'w llunio.

Llythyr Jeremeia 1