Lefiticus 9:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Llosgodd ar yr allor y braster, yr arennau a gorchudd yr iau o'r aberth dros bechod, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses;

11. llosgodd yn y tân y cnawd a'r croen y tu allan i'r gwersyll.

12. Yna lladdodd Aaron y poethoffrwm; daeth ei feibion â'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.

13. Rhoddasant iddo'r poethoffrwm fesul darn, gan gynnwys y pen, ac fe'u llosgodd ar yr allor.

14. Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau a'u llosgi ar yr allor ar ben y poethoffrwm.

15. Yna daeth ag offrwm dros y bobl. Cymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, a'i ladd a'i gyflwyno'n aberth dros bechod, fel y gwnaethai gyda'r cyntaf.

Lefiticus 9