Lefiticus 8:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Peidiwch â symud o ddrws pabell y cyfarfod am saith diwrnod, nes cwblhau dyddiau eich ordeiniad, oherwydd bydd yr ordeinio yn ymestyn dros saith diwrnod.

34. Gwnaed yr hyn a ddigwyddodd heddiw i wneud cymod drosoch, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.

35. Yr ydych i aros wrth ddrws pabell y cyfarfod ddydd a nos am saith diwrnod, a chadw'r hyn a ofyn yr ARGLWYDD, rhag ichwi farw; oherwydd dyma a orchmynnwyd i mi.”

36. Felly gwnaeth Aaron a'i feibion bopeth a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy Moses.

Lefiticus 8