Lefiticus 8:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Tywalltodd beth o'r olew eneinio ar ben Aaron, ac eneiniodd ef i'w gysegru.

13. Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, rhoddodd wisgoedd amdanynt, clymu gwregysau am eu canol, a gwisgo capiau am eu pennau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

14. Yna daeth Moses â bustach yr aberth dros bechod, a gosododd Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.

15. Lladdodd Moses y bustach a chymryd peth o'r gwaed a'i roi â'i fys ar y cyrn bob ochr i'r allor i'w chysegru; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor. Felly y cysegrodd hi, gan wneud cymod drosti.

Lefiticus 8