Lefiticus 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Os bydd unrhyw un yn pechu ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD oherwydd iddo dwyllo ei gymydog ynglŷn â rhywbeth a ymddiriedwyd iddo, neu a adawyd yn ei ofal, neu a ladratawyd, neu oherwydd iddo dreisio ei gymydog,

3. neu oherwydd iddo ddarganfod peth a gollwyd, a thwyllo a thyngu'n dwyllodrus ynglŷn ag ef—yn wir, unrhyw un o'r pechodau a wneir gan bobl—

4. pan fydd wedi pechu ac felly'n euog, dylai ddychwelyd yr hyn a ladrataodd neu a gymerodd trwy drais, neu'r hyn a ymddiriedwyd iddo, neu'r peth coll a ddarganfu,

5. neu unrhyw beth y tyngodd yn dwyllodrus ynglŷn ag ef. Y mae i dalu'n llawn amdano, ac i ychwanegu pumed ran ato a'i roi i'r perchennog y diwrnod y bydd yn gwneud offrwm dros ei gamwedd.

Lefiticus 6