2. Neu os bydd unrhyw un yn cyffwrdd ag unrhyw beth aflan, boed yn gorff bwystfil aflan, neu anifail aflan, neu ymlusgiad aflan, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, y mae'n aflan ac yn euog.
3. Neu os bydd yn cyffwrdd ag unrhyw aflendid dynol, sef unrhyw beth a fydd yn ei wneud yn aflan, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, pan fydd yn sylweddoli hynny bydd yn euog.
4. Neu os bydd rhywun yn tyngu llw yn ddifeddwl, boed i wneud drwg neu dda, mewn unrhyw beth y byddai rhywun yn tyngu llw difeddwl ynglŷn ag ef, er iddo wneud hynny'n ddiarwybod, pan fydd yn sylweddoli hynny bydd yn euog o un o'r pethau hyn.
5. Pan fydd rhywun yn euog o un o'r pethau hyn, dylai gyffesu ym mha fodd y pechodd,
6. ac yn iawn am y pechod a wnaeth y mae i ddod ag aberth dros bechod i'r ARGLWYDD, sef oen benyw neu afr o'r praidd; a bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am ei bechod.
7. “ ‘Os na all fforddio oen, dylai ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen i'r ARGLWYDD yn iawn am ei bechod, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm.
8. Y mae i ddod â hwy at yr offeiriad, a bydd yntau yn cyflwyno un yn aberth dros bechod, ac yn torri'r pen oddi wrth y corff heb eu gwahanu'n llwyr.
9. Yna bydd yn taenellu peth o waed yr aberth dros bechod ar ochr yr allor, ac yn gwasgu allan y gweddill wrth droed yr allor. Dyma fydd yr aberth dros bechod.
10. Bydd yn cyflwyno'r ail yn boethoffrwm yn y dull arferol. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth, ac fe faddeuir iddo.
11. “ ‘Ond os na all fforddio dwy durtur neu ddau gyw colomen, dylai ddod â rhodd o ddegfed ran o effa o beilliaid yn aberth dros ei bechod; nid yw i roi olew na thus arno, am mai offrwm dros bechod ydyw.
12. Y mae i ddod ag ef at yr offeiriad, a bydd yntau'n cymryd dyrnaid ohono yn gyfran goffa, ac yn ei losgi ar yr allor ar ben yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr aberth dros bechod.
13. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth ynglŷn ag un o'r pethau hyn, ac fe faddeuir iddo. Bydd y gweddill yn eiddo i'r offeiriad, fel gyda'r bwydoffrwm.’ ”
14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,