Lefiticus 5:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. “ ‘Ond os na all fforddio dwy durtur neu ddau gyw colomen, dylai ddod â rhodd o ddegfed ran o effa o beilliaid yn aberth dros ei bechod; nid yw i roi olew na thus arno, am mai offrwm dros bechod ydyw.

12. Y mae i ddod ag ef at yr offeiriad, a bydd yntau'n cymryd dyrnaid ohono yn gyfran goffa, ac yn ei losgi ar yr allor ar ben yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr aberth dros bechod.

13. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth ynglŷn ag un o'r pethau hyn, ac fe faddeuir iddo. Bydd y gweddill yn eiddo i'r offeiriad, fel gyda'r bwydoffrwm.’ ”

14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

Lefiticus 5