Lefiticus 4:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd unrhyw un yn pechu'n anfwriadol yn erbyn gorchmynion yr ARGLWYDD, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud:

3. “ ‘Os yr offeiriad eneiniog fydd yn pechu ac yn dwyn euogrwydd ar y bobl, dylai ddod â bustach ifanc di-nam i'r ARGLWYDD yn aberth dros y pechod a wnaeth.

4. Y mae i ddod â'r bustach at ddrws pabell y cyfarfod o flaen yr ARGLWYDD, a gosod ei law ar ben y bustach a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD.

5. Bydd yr offeiriad eneiniog yn cymryd o waed y bustach ac yn dod ag ef i babell y cyfarfod;

6. yna bydd yr offeiriad yn trochi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith gerbron yr ARGLWYDD, o flaen llen y cysegr.

Lefiticus 4