6. Os plentyn rhwng mis a phumlwydd oed ydyw, bydd gwerth gwryw yn bum sicl o arian a benyw yn dair sicl o arian.
7. Os rhywun trigain mlwydd oed neu drosodd ydyw, bydd gwerth gwryw yn bymtheg sicl a benyw yn ddeg sicl.
8. Os bydd unrhyw un yn rhy dlawd i dalu'r gwerth, y mae i ddod â'r person at yr offeiriad, a bydd yntau'n pennu ei werth yn ôl yr hyn y gall y sawl sy'n addunedu ei fforddio; yr offeiriad fydd yn pennu'r gwerth.
9. “ ‘Os anifail sy'n dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD yw'r adduned, bydd y cyfan o'r anifail yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
10. Nid yw i'w gyfnewid, na rhoi un da am un gwael nac un gwael am un da; os bydd yn cyfnewid un anifail am un arall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd.
11. Os yw'r anifail yn un aflan, a heb fod yn dderbyniol fel offrwm i'r ARGLWYDD, y mae i ddod â'r anifail at yr offeiriad,
12. a bydd yntau yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; beth bynnag a benna'r offeiriad, hynny fydd ei werth.
13. Os bydd y perchennog yn dymuno rhyddhau'r anifail, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth.
14. “ ‘Os bydd rhywun yn cysegru ei dŷ yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, bydd yr offeiriad yn pennu ei werth, pa un ai da ai drwg ydyw; y gwerth a rydd yr offeiriad arno fydd yn sefyll.
15. Os bydd rhywun sy'n cysegru ei dŷ am ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd y tŷ'n eiddo iddo.
16. “ ‘Os bydd rhywun am gysegru i'r ARGLWYDD ran o dir ei etifeddiaeth, mesurir ei werth yn ôl yr had ar ei gyfer, sef hanner can sicl o arian ar gyfer pob homer o haidd.
17. Os bydd yn cysegru'r tir yn ystod blwyddyn y jwbili, bydd ei werth yn sefyll.
18. Ond os bydd yn ei gysegru ar ôl y jwbili, bydd yr offeiriad yn amcangyfrif ei bris yn ôl y blynyddoedd sy'n weddill hyd y jwbili nesaf, a bydd ei werth yn gostwng.
19. Os bydd y sawl sy'n cysegru ei dir yn dymuno ei ryddhau, y mae i ychwanegu pumed ran at ei werth, a bydd yn eiddo iddo.