Lefiticus 27:28-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Er hynny, ni ellir gwerthu na rhyddhau unrhyw eiddo, boed ddyn, anifail, neu dir sy'n etifeddiaeth, os yw wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD; y mae unrhyw ddiofryd yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

29. Ni ellir rhyddhau neb sydd wedi ei gyflwyno'n ddiofryd i'r ARGLWYDD, ond rhaid iddo farw.

30. “ ‘Y mae degwm unrhyw gynnyrch o'r tir, boed yn rawn o'r tir neu'n ffrwyth o'r coed, yn eiddo i'r ARGLWYDD.

31. Os bydd rhywun yn rhyddhau rhywfaint o'r degwm, y mae i ychwanegu pumed ran ato.

32. Y mae holl ddegwm gyr neu ddiadell, sef y degfed anifail sy'n croesi o dan y ffon, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

33. Ni ddylid dewis rhwng da a drwg, na chyfnewid; ond os newidir un yn lle'r llall, bydd y ddau ohonynt yn sanctaidd, ac ni ellir eu rhyddhau.’ ”

34. Dyma'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel ar Fynydd Sinai.

Lefiticus 27