Lefiticus 25:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Am chwe blynedd byddwch yn hau eich meysydd, ac am chwe blynedd yn tocio eich gwinllannoedd ac yn casglu eu ffrwyth;

4. ond ar y seithfed flwyddyn bydd y wlad yn cael Saboth o orffwys, sef Saboth i'r ARGLWYDD, ac nid ydych i hau eich meysydd nac i docio eich gwinllannoedd.

5. Nid ydych ychwaith i fedi'r cynhaeaf a dyfodd ohono'i hun, nac i gasglu grawnwin oddi ar winwydd heb eu tocio; y mae'r wlad i gael blwyddyn o orffwys.

6. Ond bydd unrhyw beth a gynhyrcha'r ddaear yn ystod y flwyddyn o Saboth yn fwyd i ti dy hun, ac i'th was a'th forwyn, dy was cyflog a'r estron sy'n byw gyda thi,

7. a hefyd i'th anifail ac i'r bwystfil gwyllt fydd ar dy dir; bydd yr holl gynnyrch yn ymborth.

Lefiticus 25