Lefiticus 23:9-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

10. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi, a medi ei chynhaeaf, yr ydych i ddod ag ysgub o flaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.

11. Bydd yntau'n chwifio'r ysgub o flaen yr ARGLWYDD, iddi fod yn dderbyniol drosoch; y mae'r offeiriad i'w chwifio drannoeth y Saboth.

12. Ar y diwrnod y chwifir yr ysgub yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD oen blwydd di-nam,

13. a chydag ef fwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, a hefyd ddiodoffrwm o chwarter hin o win.

14. Nid ydych i fwyta bara, grawn sych, na grawn ir cyn y diwrnod y byddwch yn dod â'ch rhodd i'ch Duw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.

15. “ ‘O drannoeth y Saboth, sef y diwrnod y daethoch ag ysgub yr offrwm cyhwfan, cyfrifwch saith wythnos lawn.

16. Cyfrifwch hanner can diwrnod hyd drannoeth y seithfed Saboth, ac yna dewch â bwydoffrwm o rawn newydd i'r ARGLWYDD.

17. O ble bynnag y byddwch yn byw dewch â dwy dorth, wedi eu gwneud â phumed ran o effa o beilliaid a'u pobi â lefain, yn offrwm cyhwfan o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD.

18. Cyflwynwch gyda'r bara hwn saith oen blwydd di-nam, un bustach ifanc a dau hwrdd; byddant hwy'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD, gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

19. Yna offrymwch un bwch gafr yn aberth dros bechod, a dau oen blwydd yn heddoffrwm.

20. Bydd yr offeiriad yn chwifio'r ddau oen a bara'r blaenffrwyth yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD; y maent yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, yn eiddo'r offeiriad.

Lefiticus 23