Lefiticus 22:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Pan fyddwch yn cyflwyno offrwm diolch i'r ARGLWYDD, gwnewch hynny mewn modd y caiff ei dderbyn ar eich rhan;

30. rhaid ei fwyta yr un diwrnod; peidiwch â gadael dim ohono hyd y bore. Myfi yw'r ARGLWYDD.

31. “Cadwch fy ngorchmynion a'u gwneud; myfi yw'r ARGLWYDD.

32. Peidiwch â halogi fy enw sanctaidd; rhaid fy sancteiddio ymysg pobl Israel. Myfi yw'r ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio,

33. ac a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft, i fod yn Dduw ichwi. Myfi yw'r ARGLWYDD.”

Lefiticus 22