Lefiticus 22:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. “ ‘Nid yw neb estron i fwyta'r offrymau sanctaidd, neb sy'n westai neu'n was cyflog i offeiriad.

11. Ond os bydd offeiriad yn prynu caethwas am arian, neu os bydd caethwas wedi ei eni yn ei dŷ, caiff y rheini fwyta'i fwyd.

12. Os bydd merch i offeiriad yn priodi unrhyw un heblaw offeiriad, ni chaiff hi fwyta dim o'r offrymau sanctaidd.

13. Ond os bydd merch i offeiriad yn weddw neu'n cael ei hysgaru, a hithau heb blant ac yn dychwelyd i fyw yn nhŷ ei thad fel pan oedd yn ifanc, yna caiff hi fwyta o fwyd ei thad. Nid yw neb arall i fwyta o'r bwyd.

Lefiticus 22