Lefiticus 21:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. yn wargam neu'n gorrach, gyda nam ar ei lygad, crach, doluriau neu geilliau briwedig.

21. Nid yw'r un o ddisgynyddion Aaron yr offeiriad sydd â nam arno i ddynesu i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; am fod nam arno, nid yw i ddynesu i gyflwyno bwyd ei Dduw.

22. Caiff fwyta bwyd ei Dduw o'r offrymau sanctaidd a'r offrymau sancteiddiaf,

23. ond oherwydd bod nam arno ni chaiff fynd at y llen na dynesu at yr allor, rhag iddo halogi fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.’ ”

24. Fel hyn y dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion ac wrth holl bobl Israel.

Lefiticus 21