Lefiticus 18:8-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig dy dad; byddai hynny'n amharchu dy dad.

9. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â'th chwaer, boed yn ferch i'th dad neu'n ferch i'th fam, ac wedi ei geni yn y cartref neu'r tu allan iddo.

10. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â merch dy fab neu ferch dy ferch; byddai hynny'n dy amharchu.

11. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â merch i wraig dy dad sydd wedi ei geni i'th dad; y mae'n chwaer iti, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.

12. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â chwaer dy dad; y mae'n berthynas agos i'th dad.

13. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â chwaer dy fam, gan ei bod yn berthynas agos i'th fam.

14. “ ‘Nid wyt i amharchu brawd dy dad trwy ddynesu at ei wraig; y mae'n fodryb iti.

15. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â'th ferch-yng-nghyfraith; y mae'n wraig i'th fab, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.

16. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig dy frawd; byddai hynny'n amharchu dy frawd.

17. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig ac â'i merch, nac ychwaith â merch ei mab na merch ei merch; y maent yn perthyn yn agos iddi, a byddai hynny'n anlladrwydd.

18. “ ‘Nid wyt i briodi chwaer dy wraig rhag iddi gystadlu â hi, na chael cyfathrach â hi tra bo dy wraig yn fyw.

Lefiticus 18