Lefiticus 18:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Halogwyd y tir, ac fe'i cosbais am ei ddrygioni, ac fe chwydodd y tir ei drigolion.

26. Ond cadwch chwi fy neddfau a'm cyfreithiau, a pheidiwch â gwneud yr un o'r pethau ffiaidd hyn, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych;

27. oherwydd gwnaeth y bobl oedd yn y wlad o'ch blaen chwi yr holl bethau ffiaidd hyn, a halogwyd y tir.

28. Os byddwch chwi'n halogi'r tir, bydd yn eich chwydu chwithau fel y chwydodd y cenhedloedd oedd o'ch blaen chwi.

Lefiticus 18