Lefiticus 18:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig ac â'i merch, nac ychwaith â merch ei mab na merch ei merch; y maent yn perthyn yn agos iddi, a byddai hynny'n anlladrwydd.

18. “ ‘Nid wyt i briodi chwaer dy wraig rhag iddi gystadlu â hi, na chael cyfathrach â hi tra bo dy wraig yn fyw.

19. “ ‘Nid wyt i ddynesu at wraig i gael cyfathrach rywiol â hi yn ystod aflendid ei misglwyf.

20. “ ‘Nid wyt i orwedd mewn cyfathrach gyda gwraig dy gymydog, i'th wneud dy hun yn aflan gyda hi.

21. “ ‘Nid wyt i roi yr un o'th blant i'w aberthu i Moloch, a halogi enw dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

22. “ ‘Nid wyt i orwedd gyda dyn fel gyda gwraig; y mae hynny'n ffieidd-dra.

Lefiticus 18