Lefiticus 16:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Fel hyn y mae Aaron i ddod i'r cysegr: â bustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.

4. Bydd yn gwisgo mantell sanctaidd o liain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff; bydd yn rhoi gwregys lliain am ei ganol a thwrban lliain am ei ben. Y mae'r rhain yn ddillad sanctaidd, a bydd yn ymolchi â dŵr cyn eu gwisgo.

5. Bydd yn cymryd oddi wrth gynulleidfa pobl Israel ddau fwch gafr yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.

6. “Bydd Aaron yn cyflwyno bustach yr aberth dros ei bechod ei hun, er mwyn gwneud cymod drosto'i hun a thros ei dylwyth.

7. Yna bydd yn cymryd y ddau fwch gafr ac yn dod â hwy o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod.

Lefiticus 16