Lefiticus 16:16-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Fel hyn y bydd yn gwneud cymod dros y cysegr, oherwydd aflendid pobl Israel a'u troseddau o achos eu holl bechodau; bydd yn gwneud yr un fath dros babell y cyfarfod, sydd yn eu mysg yng nghanol eu holl aflendid.

17. Ni chaiff unrhyw un fynd i mewn i babell y cyfarfod, ar ôl i Aaron fynd i mewn i wneud cymod yn y cysegr, nes iddo ddod allan, wedi iddo orffen gwneud cymod drosto'i hun, ei dylwyth a holl gynulleidfa Israel.

18. Yna bydd yn dod allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, ac yn gwneud cymod drosti. Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac o waed y bwch, ac yn ei roi ar gyrn yr allor o'i hamgylch.

19. Bydd yn taenellu peth o'r gwaed arni â'i fys seithwaith i'w glanhau o aflendid pobl Israel, ac yn ei chysegru.

20. “Ar ôl i Aaron orffen gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, bydd yn cyflwyno'r bwch byw.

21. Bydd yn gosod ei ddwy law ar ben y bwch byw, ac yn cyffesu drosto holl ddrygioni a throseddau pobl Israel o achos eu holl bechodau, ac yn eu rhoi ar ben y bwch; yna bydd yn anfon y bwch i'r anialwch yng ngofal dyn a benodwyd i wneud hynny.

22. Y mae'r bwch i ddwyn eu holl ddrygioni arno'i hun i dir unig, a bydd y dyn yn ei ollwng yn rhydd yn yr anialwch.

23. “Yna bydd Aaron yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, yn diosg y dillad lliain a wisgodd pan oedd yn mynd i'r cysegr, ac yn eu gadael yno.

24. Bydd yn ymolchi â dŵr mewn lle sanctaidd, ac yn gwisgo ei ddillad arferol. Wedyn bydd yn dod allan, ac yn offrymu ei boethoffrwm ei hun a phoethoffrwm y bobl, ac yn gwneud cymod drosto'i hun a thros y bobl.

25. Bydd hefyd yn llosgi ar yr allor fraster yr aberth dros bechod.

26. “Bydd y dyn sy'n gollwng y bwch dihangol yn rhydd yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi â dŵr; ac wedi hynny caiff ddod i mewn i'r gwersyll.

27. Y mae bustach a bwch yr aberth dros bechod, y dygwyd eu gwaed i wneud cymod yn y cysegr, i'w dwyn allan o'r gwersyll; y mae eu crwyn, eu cyrff a'u gweddillion i'w llosgi yn y tân.

Lefiticus 16