Lefiticus 16:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar ôl marwolaeth dau fab Aaron, a fu farw pan ddaethant gerbron yr ARGLWYDD,

2. a dywedodd, “Dywed wrth dy frawd Aaron nad yw ar bob adeg i ddod y tu ôl i'r llen sydd o flaen y drugareddfa uwchben yr arch yn y cysegr, rhag iddo farw; oherwydd byddaf yn ymddangos yn y cwmwl uwchben y drugareddfa.

3. Fel hyn y mae Aaron i ddod i'r cysegr: â bustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.

4. Bydd yn gwisgo mantell sanctaidd o liain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff; bydd yn rhoi gwregys lliain am ei ganol a thwrban lliain am ei ben. Y mae'r rhain yn ddillad sanctaidd, a bydd yn ymolchi â dŵr cyn eu gwisgo.

5. Bydd yn cymryd oddi wrth gynulleidfa pobl Israel ddau fwch gafr yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.

6. “Bydd Aaron yn cyflwyno bustach yr aberth dros ei bechod ei hun, er mwyn gwneud cymod drosto'i hun a thros ei dylwyth.

7. Yna bydd yn cymryd y ddau fwch gafr ac yn dod â hwy o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod.

8. Bydd Aaron yn bwrw coelbrennau am y ddau fwch, un coelbren am fwch i'r ARGLWYDD, a'r llall am y bwch dihangol.

9. Bydd Aaron yn dod â'r bwch y disgynnodd coelbren yr ARGLWYDD arno, ac yn ei offrymu'n aberth dros bechod.

10. Ond bydd yn cyflwyno'n fyw gerbron yr ARGLWYDD y bwch y disgynnodd coelbren y bwch dihangol arno, er mwyn gwneud iawn trwy ei ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.

Lefiticus 16