24. Os bydd dyn yn gorwedd gyda hi, a'i misglwyf yn cyffwrdd ag ef, y mae yntau'n aflan am saith diwrnod, ac y mae unrhyw wely y gorwedd arno yn aflan.
25. “ ‘Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed am lawer o ddyddiau heblaw ar adeg ei misglwyf, neu pan fydd y diferlif yn parhau ar ôl ei misglwyf, bydd yn aflan cyhyd ag y pery'r diferlif, fel ar adeg ei misglwyf.
26. Y mae unrhyw wely y mae'n gorwedd arno tra pery ei diferlif yn aflan, fel y mae ei gwely yn ystod ei misglwyf, ac y mae unrhyw beth y mae'n eistedd arno yn aflan, fel y mae yn ystod ei misglwyf.
27. Y mae unrhyw un sy'n eu cyffwrdd yn aflan, ac y mae i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr a bod yn aflan hyd yr hwyr.