Lefiticus 14:43-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. “Os bydd y malltod yn torri allan eilwaith yn y tŷ ar ôl tynnu allan y meini a chrafu'r muriau a phlastro,

44. bydd yr offeiriad yn dod i'w archwilio, ac os bydd y malltod wedi lledu yn y tŷ, y mae'n falltod dinistriol; y mae'r tŷ yn aflan.

45. Rhaid tynnu'r tŷ i lawr, yn gerrig, coed a'r holl blastr, a mynd â hwy i le aflan y tu allan i'r ddinas.

46. Bydd unrhyw un sy'n mynd i'r tŷ tra bydd wedi ei gau yn aflan hyd yr hwyr.

47. Y mae unrhyw un sy'n cysgu neu'n bwyta yn y tŷ i olchi ei ddillad.

Lefiticus 14