Lefiticus 14:38-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r tŷ at y drws ac yn cau'r tŷ am saith diwrnod.

39. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn dychwelyd i archwilio'r tŷ. Os bydd y malltod wedi lledu ar furiau'r tŷ,

40. bydd yr offeiriad yn gorchymyn tynnu allan y meini y mae'r malltod ynddynt, a'u lluchio i le aflan y tu allan i'r ddinas,

41. a hefyd crafu muriau'r tŷ oddi mewn, a lluchio'r plastr a dynnir i le aflan y tu allan i'r ddinas.

42. Yna byddant yn cymryd meini eraill ac yn eu rhoi yn lle'r rhai a dynnwyd, a hefyd plastr arall a phlastro'r tŷ.

Lefiticus 14