Lefiticus 13:35-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. Ond os bydd y clafr yn lledu ar y croen ar ôl ei gyhoeddi'n lân,

36. bydd yr offeiriad yn ei archwilio; ac os bydd y clafr wedi lledu ar y croen, nid oes rhaid i'r offeiriad chwilio am flew melyn; y mae'n aflan.

37. Os gwêl yr offeiriad fod y clafr wedi aros yr un fath, a blew du yn tyfu ynddo, y mae'r clafr wedi gwella. Y mae'r claf yn lân, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân.

38. “Pan fydd gan ŵr neu wraig smotiau gwyn ar y croen,

39. bydd yr offeiriad yn eu harchwilio, ac os bydd y smotiau yn wyn gwelw, brech wedi torri allan ar y croen ydynt; y mae'r claf yn lân.

Lefiticus 13