Lefiticus 13:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. y mae'r claf i eillio, ac eithrio lle mae'r clafr, a bydd yr offeiriad yn ei gadw o'r neilltu am saith diwrnod arall. Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn archwilio'r clafr eilwaith,

34. ac os bydd heb ledu ar y croen a heb ymddangos yn ddyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi'n lân. Y mae'r claf i olchi ei ddillad, ac yna bydd yn lân.

35. Ond os bydd y clafr yn lledu ar y croen ar ôl ei gyhoeddi'n lân,

36. bydd yr offeiriad yn ei archwilio; ac os bydd y clafr wedi lledu ar y croen, nid oes rhaid i'r offeiriad chwilio am flew melyn; y mae'n aflan.

Lefiticus 13