Lefiticus 11:21-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ond y mae rhai pryfed adeiniog sy'n ymlusgo ar bedwar troed y cewch eu bwyta: y rhai sydd â chymalau yn eu coesau i sboncio ar y ddaear.

22. O'r rhain cewch fwyta unrhyw fath ar locust, ceiliog rhedyn, criciedyn neu sioncyn gwair.

23. Ond y mae pob pryf adeiniog arall sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi.

24. “ ‘Byddwch yn eich halogi eich hunain trwy'r rhain; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr.

25. Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr.

26. “ ‘Y mae unrhyw anifail sydd heb hollti'r ewin a'i fforchi i'r pen, a heb gnoi cil, yn aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan.

27. O'r holl greaduriaid sy'n cerdded ar eu pedwar, y mae'r rhai sy'n cerdded ar eu pawennau yn aflan i chwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr.

28. Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; y maent yn aflan ichwi.

29. “ ‘O'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear, y mae'r rhain yn aflan ichwi: y wenci, y llygoden, pob math ar lysard,

30. y geco, y llyffant, y genau-goeg, y lysard melyn a'r fadfall.

31. O'r rhai sy'n ymlusgo ar y ddaear, dyna'r rhai sy'n aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â hwy wedi iddynt farw yn aflan hyd yr hwyr.

Lefiticus 11