Lefiticus 10:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, a rhwng aflan a glân,

11. a dysgu i bobl Israel yr holl ddeddfau a roddodd yr ARGLWYDD iddynt trwy Moses.”

12. Dywedodd Moses wrth Aaron ac wrth Eleasar ac Ithamar, y meibion a adawyd, “Cymerwch y bwydoffrwm sy'n weddill o'r offrymau trwy dân a wnaed i'r ARGLWYDD, a'i fwyta heb furum wrth ymyl yr allor, oherwydd y mae'n gwbl sanctaidd.

13. Bwytewch ef mewn lle sanctaidd, gan mai dyna dy gyfran di a chyfran dy feibion o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, oherwydd fel hyn y gorchmynnais.

Lefiticus 10