1. Yna syrthiodd Judith ar ei hwyneb, taenellodd ludw ar ei phen, a datgelu'r sachliain a wisgai. Ac ar adeg offrymu'r arogldarth hwyrol yn nhŷ Dduw yn Jerwsalem, galwodd Judith â llais uchel ar yr Arglwydd, a dweud:
2. “O Arglwydd, Duw fy nghyndad Simeon, rhoddaist yn ei law ef gleddyf i ddial ar yr estroniaid hynny a dreisiodd forwyn a'i difwyno; noethasant ei chluniau a'i chywilyddio, a halogi ei chroth a'i gwaradwyddo. Er iti ddweud, ‘Ni chaiff hyn fod’, fe'i gwnaethant.
3. Am hynny, traddodaist eu llywodraethwyr i'w lladd, a thraddodi i'r gwaed eu gwely, a wridai am y ferch a dwyllwyd; trewaist gaethweision ynghyd â'u harglwyddi, a'r arglwyddi ar eu gorseddau.
4. Traddodaist eu gwragedd i'w hysbeilio a'u merched i'w caethgludo, a'u holl anrhaith i'w rhannu rhwng y rhai a geraist, y rhai a fu mor fawr eu sêl drosot, ac a ffieiddiodd y gwaradwydd a fu ar eu gwaed. Galwasant arnat ti am gymorth. O Dduw, fy Nuw, gwrando yn awr arnaf fi, a minnau'n weddw.