28. “O galon ddiffuant,” meddai Osias wrthi, “yr wyt wedi llefaru'r cwbl a ddywedaist, ac nid oes neb a all wrthsefyll dy eiriau.
29. Oherwydd nid heddiw yw'r tro cyntaf iti amlygu doethineb; y mae pawb yn gwybod mor ddeallus wyt, ac mor ddibynadwy dy farn o'th blentyndod.
30. Ond, a'r bobl yn dioddef yn enbyd o syched, gorfodwyd ni ganddynt i gyflawni'n haddewid iddynt, a thyngu llw nad ydym i'w dorri.
31. Gwraig dduwiol wyt; gweddïa drosom felly, a bydd yr Arglwydd yn anfon glaw i lenwi ein llestri dŵr, fel na byddwn mwyach yn llewygu gan syched.”
32. Atebodd Judith hwy, “Gwrandewch arnaf, ac mi gyflawnaf weithred a gofir o genhedlaeth i genhedlaeth gan ein cenedl.
33. Safwch chwithau wrth y porth trwy'r nos heno; ac mi af fi allan gyda'm llawforwyn. Cyn y daw'r dydd yr addawsoch ildio'r ddinas i'n gelynion, bydd yr Arglwydd drwy fy llaw i wedi gwaredu Israel.
34. Peidiwch chwi â holi am fy nghynllun; ni ddywedaf ddim wrthych hyd nes i mi ei gyflawni.”
35. Ac meddai Osias a'r llywodraethwyr wrthi: “Dos mewn tangnefedd, a bydded yr Arglwydd Dduw o'th flaen di, i ddial ar ein gelynion.”
36. Yna aethant o'r babell a dychwelyd i'w rhengoedd.