Judith 8:19-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Dyna'r rheswm y rhoddwyd ein hynafiaid i fin y cleddyf ac i fod yn ysbail; mawr iawn fu eu cwymp o flaen ein gelynion.

20. Ond amdanom ni, nid ydym wedi cydnabod unrhyw Dduw arall ond ef; dyma sail ein gobaith na fydd iddo ein dirmygu ni na neb o'n cenedl.

21. Oherwydd o'n dal ni fel hyn, fe ddelir holl wlad Jwdea; anrheithir ein cysegrleoedd, a gelwir arnom i ateb dros eu halogi hwy â'n gwaed.

22. Lladd ein pobl, caethiwo'n gwlad, troi'n treftadaeth yn anialwch—ar ein pen ni y daw hyn oll ymhlith y cenhedloedd, lle bynnag y byddwn yn gaethion iddynt; byddwn yn wrthrych gwarth a dirmyg yng ngolwg ein perchnogion.

23. Nid ffafr fydd yn deillio o'n caethiwed; yn hytrach bydd yr Arglwydd ein Duw yn dwyn amarch ohono.

24. Ac yn awr, gyfeillion, rhown esiampl i'n cymrodyr, oherwydd arnom ni y mae eu heinioes yn dibynnu, ac yn ein llaw ni y saif tynged y cysegr, y deml a'r allor.

25. Ar ben hyn oll, rhown ddiolch i'r Arglwydd ein Duw, sy'n gosod prawf arnom fel y gwnaeth ar ein hynafiaid.

26. Cofiwch yr hyn a wnaeth i Abraham, y modd y profodd Isaac, a'r hyn a ddigwyddodd i Jacob yn rhanbarth Syria o Mesopotamia tra oedd yn bugeilio defaid Laban, brawd ei fam.

27. Ni phrofodd ni â thân fel y profodd hwy, i chwilio'u calonnau; nid yw ef wedi dial arnom ni; er mwyn eu disgyblu y mae'r Arglwydd yn cosbi'r rhai sy'n nesáu ato.”

28. “O galon ddiffuant,” meddai Osias wrthi, “yr wyt wedi llefaru'r cwbl a ddywedaist, ac nid oes neb a all wrthsefyll dy eiriau.

29. Oherwydd nid heddiw yw'r tro cyntaf iti amlygu doethineb; y mae pawb yn gwybod mor ddeallus wyt, ac mor ddibynadwy dy farn o'th blentyndod.

30. Ond, a'r bobl yn dioddef yn enbyd o syched, gorfodwyd ni ganddynt i gyflawni'n haddewid iddynt, a thyngu llw nad ydym i'w dorri.

31. Gwraig dduwiol wyt; gweddïa drosom felly, a bydd yr Arglwydd yn anfon glaw i lenwi ein llestri dŵr, fel na byddwn mwyach yn llewygu gan syched.”

32. Atebodd Judith hwy, “Gwrandewch arnaf, ac mi gyflawnaf weithred a gofir o genhedlaeth i genhedlaeth gan ein cenedl.

33. Safwch chwithau wrth y porth trwy'r nos heno; ac mi af fi allan gyda'm llawforwyn. Cyn y daw'r dydd yr addawsoch ildio'r ddinas i'n gelynion, bydd yr Arglwydd drwy fy llaw i wedi gwaredu Israel.

Judith 8