Judith 8:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Wedi iddynt gyrraedd dywedodd wrthynt: “Gwrandewch arnaf, lywodraethwyr trigolion Bethulia. Nid oedd yn iawn i chwi siarad fel y gwnaethoch heddiw gerbron y bobl, a thyngu'r llw hwn gerbron Duw, gan ddweud y byddech yn ildio'r dref i'n gelynion, os na byddai'r Arglwydd yn troi'n ôl i'ch gwaredu chwi cyn pen nifer o ddyddiau.

12. Pwy ydych chwi, ynteu, sydd wedi rhoi Duw ar ei brawf heddiw, a sefyll yn ei le ef ymhlith pobl?

13. Yn hyn o beth, onid yr Arglwydd Hollalluog a osodir ar brawf gennych? Ni ddeallwch chwi ddim am hyn byth bythoedd.

14. Ni threiddiwch byth i ddyfnder calon dyn, na dirnad ei feddyliau; sut, felly, y chwiliwch feddwl y Duw a wnaeth hyn oll, a dirnad ei feddwl a deall ei gynlluniau ef? Na, gyfeillion, peidiwch â digio'r Arglwydd ein Duw.

15. Os nad yw'n dewis ein cynorthwyo cyn pen y pum diwrnod, ganddo ef y mae'r hawl i'n hamddiffyn am gynifer o ddyddiau ag a fyn, neu i'n dinistrio gerbron ein gelynion.

16. Peidiwch â gosod amodau ar yr Arglwydd ein Duw; nid dyn mohono i'w fygwth, na mab dyn i ddwyn perswâd arno.

17. Gan hynny, wrth inni aros iddo'n hachub ni, galwn arno am ei gymorth, ac os gwêl yn dda fe wrendy ar ein cri.

18. Oherwydd ni fu yn ein hoes ni, ac ni cheir heddiw, na llwyth na theulu, na thref na dinas, ohonom ni sy'n addoli duwiau o waith llaw fel y bu yn y dyddiau gynt.

19. Dyna'r rheswm y rhoddwyd ein hynafiaid i fin y cleddyf ac i fod yn ysbail; mawr iawn fu eu cwymp o flaen ein gelynion.

20. Ond amdanom ni, nid ydym wedi cydnabod unrhyw Dduw arall ond ef; dyma sail ein gobaith na fydd iddo ein dirmygu ni na neb o'n cenedl.

21. Oherwydd o'n dal ni fel hyn, fe ddelir holl wlad Jwdea; anrheithir ein cysegrleoedd, a gelwir arnom i ateb dros eu halogi hwy â'n gwaed.

22. Lladd ein pobl, caethiwo'n gwlad, troi'n treftadaeth yn anialwch—ar ein pen ni y daw hyn oll ymhlith y cenhedloedd, lle bynnag y byddwn yn gaethion iddynt; byddwn yn wrthrych gwarth a dirmyg yng ngolwg ein perchnogion.

23. Nid ffafr fydd yn deillio o'n caethiwed; yn hytrach bydd yr Arglwydd ein Duw yn dwyn amarch ohono.

Judith 8