1. Yn y dyddiau hynny, clywodd Judith am hyn. Merch oedd hi i Merari fab Ox, fab Joseff, fab Osiel, fab Helcias, fab Ananias, fab Gideon, fab Raffaim, fab Achitob, fab Elias, fab Chelciap, fab Eliab, fab Nathanael, fab Salamiel, fab Sarasadai, fab Israel.
2. Yr oedd ei gŵr Manasse o'r un llwyth a theulu â hithau; bu ef farw adeg y cynhaeaf barlys.
3. Tra oedd yn arolygu'r rhai oedd yn rhwymo'r ysgubau ar y maes, fe'i trawyd gan wres yr haul; aeth i'w wely a bu farw yn Bethulia, ei dref ei hun. Claddasant ef gyda'i hynafiaid yn y maes sydd rhwng Dothan a Balamon.
4. Am dair blynedd a phedwar mis bu Judith fyw yn ei thŷ ei hun yn weddw.
5. Yr oedd wedi gwneud pabell iddi ei hun ar do ei thŷ, a gosod sachliain am ei chanol, a dillad gweddwdod oedd amdani.
6. Byddai hi'n ymprydio bob dydd o'i gweddwdod ar wahân i'r dydd cyn y Saboth a'r Saboth, y noson cyn y newydd-loer a'r newydd-loer, a dyddiau gŵyl ac uchel wyliau Israel.
7. Gwraig brydferth a deniadol iawn oedd Judith. Gadawodd ei gŵr Manasse iddi aur ac arian, gweision a morynion a gwartheg a thiroedd, ac yr oedd hi'n dal i fyw ar ei hystad.
8. Nid oedd gan neb air drwg i'w ddweud amdani, am ei bod hi'n dduwiol iawn.
9. Clywodd Judith am eiriau cas y bobl yn erbyn y llywodraethwr Osias, a hwythau wedi gwangalonni oherwydd prinder dŵr, a chlywodd hefyd am bopeth a ddywedodd Osias yn ateb iddynt, a'i fod wedi tyngu iddynt yr ildiai'r dref i'r Asyriaid ymhen pum diwrnod.
10. Anfonodd y forwyn a ofalai am ei holl ystad i alw ati Osias. Chabris a Charmis, henuriaid ei thref.
11. Wedi iddynt gyrraedd dywedodd wrthynt: “Gwrandewch arnaf, lywodraethwyr trigolion Bethulia. Nid oedd yn iawn i chwi siarad fel y gwnaethoch heddiw gerbron y bobl, a thyngu'r llw hwn gerbron Duw, gan ddweud y byddech yn ildio'r dref i'n gelynion, os na byddai'r Arglwydd yn troi'n ôl i'ch gwaredu chwi cyn pen nifer o ddyddiau.
12. Pwy ydych chwi, ynteu, sydd wedi rhoi Duw ar ei brawf heddiw, a sefyll yn ei le ef ymhlith pobl?
13. Yn hyn o beth, onid yr Arglwydd Hollalluog a osodir ar brawf gennych? Ni ddeallwch chwi ddim am hyn byth bythoedd.
14. Ni threiddiwch byth i ddyfnder calon dyn, na dirnad ei feddyliau; sut, felly, y chwiliwch feddwl y Duw a wnaeth hyn oll, a dirnad ei feddwl a deall ei gynlluniau ef? Na, gyfeillion, peidiwch â digio'r Arglwydd ein Duw.
15. Os nad yw'n dewis ein cynorthwyo cyn pen y pum diwrnod, ganddo ef y mae'r hawl i'n hamddiffyn am gynifer o ddyddiau ag a fyn, neu i'n dinistrio gerbron ein gelynion.
16. Peidiwch â gosod amodau ar yr Arglwydd ein Duw; nid dyn mohono i'w fygwth, na mab dyn i ddwyn perswâd arno.