Judith 7:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Bu holl fyddin Asyria, yn wŷr traed, yn gerbydau, ac yn wŷr meirch, yn gwarchae arnynt am dri deg a phedwar o ddyddiau.

21. Yr oedd holl lestri dŵr trigolion Bethulia yn wag, y cronfeydd yn mynd yn sych, a chan fod dogni ar y dŵr yfed, nid oedd diwrnod pan gaent ddigon i'w diwallu.

22. Llesgaodd eu plant, llewygodd eu gwragedd a'u gwŷr ifainc o syched, a syrthio ar heolydd y dref ac ar fynedfeydd y pyrth; yr oeddent wedi llwyr ddiffygio.

23. Yna ymgynullodd yr holl bobl, yn wŷr ifainc, yn wragedd ac yn blant, o amgylch Osias ac arweinwyr y dref; gwaeddasant â llais uchel, a dweud gerbron yr holl henuriaid,

24. “Barned Duw rhyngoch chwi a ninnau. Oherwydd gwnaethoch gam mawr â ni drwy wrthod trafod heddwch gyda'r Asyriaid.

25. Yn awr, nid oes gennym neb i fod yn gefn inni, oherwydd y mae Duw wedi ein gwerthu i'w dwylo hwy, fel y'n ceir ganddynt wedi ein gwasgaru ar lawr mewn syched a diymadferthedd llwyr.

26. Am hynny, galw hwy i mewn, ac ildia'r holl dref yn ysbail i bobl Holoffernes ac i'w fyddin i gyd.

Judith 7