Judith 7:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Gwaeddodd yr Israeliaid ar yr Arglwydd eu Duw; yr oeddent wedi digalonni am i'w holl elynion eu hamgylchynu, a hwythau heb fodd i ddianc rhagddynt.

20. Bu holl fyddin Asyria, yn wŷr traed, yn gerbydau, ac yn wŷr meirch, yn gwarchae arnynt am dri deg a phedwar o ddyddiau.

21. Yr oedd holl lestri dŵr trigolion Bethulia yn wag, y cronfeydd yn mynd yn sych, a chan fod dogni ar y dŵr yfed, nid oedd diwrnod pan gaent ddigon i'w diwallu.

Judith 7