Judith 7:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Trannoeth gorchmynnodd Holoffernes i'w holl fyddin, a phawb a ddaethai'n gynghreiriaid iddo, symud yn erbyn Bethulia, a meddiannu bylchau'r mynydd-dir, ac ymosod ar yr Israeliaid.

2. Y diwrnod hwnnw symudodd yr holl ryfelwyr eu gwersyll, yn dyrfa enfawr: eu lluoedd arfog yn gant saith deg o filoedd o wŷr traed a deuddeng mil o wŷr meirch, heb gyfrif y gwŷr traed a oedd yn cludo cyfreidiau'r fyddin.

3. Ar ôl iddynt wersyllu yn y dyffryn ger Bethulia, wrth y ffynnon, yr oedd eu gwersyll yn ymestyn i gyfeiriad Dothan mor bell â Belbaim yn ei led, ac yn ei hyd o Bethulia i Cyamon gogyfer ag Esdraelon.

Judith 7