4. byddwn yn eu difa'n llwyr. Bydd eu mynyddoedd yn feddw ar eu gwaed, a'u gwastadeddau yn llawn o'u cyrff. Ni allant sefyll yn ein herbyn, ond fe'u llwyr ddifethir, medd y Brenin Nebuchadnesar, arglwydd yr holl ddaear. Y mae ef wedi llefaru, ac ni phrofir yn ofer yr un o'r geiriau a lefarodd ef.
5. Ond amdanat ti, Achior, ti was cyflog Ammon, yn dy anwiredd y lleferaist ti y geiriau hyn heddiw; ni chei weld fy wyneb eto, o'r dydd hwn nes i mi ddial ar hiliogaeth y ffoaduriaid hynny o'r Aifft.
6. Ond pan ddychwelaf, caiff cleddyfau fy milwyr a gwaywffyn fy ngosgordd dy drywanu drwy dy ystlysau, ac fe syrthi dithau ymhlith eu clwyfedigion.
7. Yn awr, caiff fy ngweision dy gymryd di i ffwrdd i'r mynydd-dir, a'th roi yn un o drefi'r bylchau,
8. ond ni chei di farw nes iti gael dy lwyr ddifetha gyda hwy.
9. Os wyt yn wir yn hyderus na chymerir hwy, paid ag edrych mor ddigalon. Lleferais, ac ni fydd un o'm geiriau nas cyflawnir.”