Judith 5:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. ond os nad oes yn eu cenedl hwy unrhyw anghyfraith, gad lonydd iddynt, f'arglwydd, rhag ofn i'w Harglwydd a'u Duw eu hamddiffyn, ac i ninnau fynd yn gyff gwawd i'r holl fyd.”

22. Pan orffennodd Achior lefaru'r geiriau hyn, dechreuodd yr holl bobl oedd yn sefyll o amgylch y babell furmur yn ei erbyn; a galwodd swyddogion Holoffernes, a holl drigolion yr arfordir a Moab, am ei dorri'n ddarnau.

23. “Ni ddychrynir ni gan yr Israeliaid,” meddent, “oherwydd pobl ydynt heb na'r gallu na'r grym i ymfyddino'n effeithiol.

24. Awn i fyny felly, f'arglwydd Holoffernes, ac fe'u traflyncir gan dy fyddin fawr di.”

Judith 5