Judith 5:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Cyhyd ag y peidient â phechu yn erbyn eu Duw, fe fyddai llwyddiant iddynt, gan mai Duw sy'n casáu drygioni yw eu Duw hwy.

18. Felly, pan wyrasant oddi ar y llwybr a osododd ef iddynt, dinistriwyd hwy'n llwyr mewn rhyfeloedd lawer, a'u cludo'n garcharorion i wlad arall. Dymchwelwyd i'r llawr deml eu Duw, a goresgynnwyd eu trefi gan eu gelynion.

19. Bellach troesant yn ôl at eu Duw, daethant i fyny o'r lleoedd y gwasgarwyd hwy iddynt, a meddiannu Jerwsalem, lle mae eu cysegr, ac ymgartrefu yn y mynydd-dir am ei fod yn anghyfannedd.

Judith 5