Judith 4:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Nid oeddent ond newydd ddychwelyd o'r gaethglud, a dim ond yn ddiweddar yr oedd holl bobl Jwdea wedi eu hailuno, a'r llestri sanctaidd, yr allor a'r deml wedi eu hailgysegru ar ôl eu halogi.

4. Anfonasant neges at bob ardal yn Samaria, Cona, Bethoron, Belmain a Jericho, ac i Choba, Aisora a dyffryn Salem.

5. Wedi meddiannu copaon yr holl fryniau uchel a chadarnhau'r pentrefi oedd arnynt, rhoesant ddigon o fwyd ynghadw ar gyfer rhyfel; newydd orffen medi'r meysydd yr oeddent.

6. Ysgrifennodd Joacim yr archoffeiriad, a oedd yr adeg honno yn Jerwsalem, at drigolion Bethulia a Betomesthaim, lle sy'n wynebu ar Esdraelon, gyferbyn â'r gwastatir ger Dothan.

7. Dywedodd wrthynt am feddiannu bylchau'r mynydd-dir, oherwydd trwyddynt hwy yr oedd cael ffordd i mewn i Jwdea; a chan fod y fynedfa'n rhy gul ar gyfer mwy na dau, gellid yn hawdd rwystro'r fyddin rhag symud ymlaen.

8. Felly y gweithredodd yr Israeliaid yn ôl gorchymyn Joacim yr archoffeiriad a senedd holl bobl Israel, a oedd yn eistedd yn Jerwsalem.

Judith 4